Club Facebook
Rank #1560
Powered By
Pitchero
Back

Login

Don’t have an account?Register
Powered By
Pitchero
News & EventsLatest NewsCalendar
Noddwr newydd yn newid y gêm

Noddwr newydd yn newid y gêm

Dafydd Evans2 Jul 2023 - 19:19

City Energy a City Training yn rhoi sylfaen cadarn i'r Clwb

Mae CPDM Bangor WFC yn falch iawn o gyhoeddi cytundeb gyda City Energy, a City Training fel noddwyr crysau y Tîm 1af.

“Mae hyn yn newyddion gwych i'r Clwb, Dinas Bangor a'r cyffiniau” meddai Bryn Jones, Cadeirydd CPDM Bangor WFC. “Mae City Energy yn arweinwyr yn eu maes eu cefnogaeth yn newyddion gwych i’r Clwb. Bydd yn ein galluogi i adeiladu ar y gwaith da rydym yn ei wneud yng nghymuned Bangor a gwireddu prosiectau i sicrhau bod mwy o ferched yn yr ardal yn cael y cyfle i chwarae pêl-droed.
“Bwriadwn recriwtio mwy o hyfforddwyr er mwyn cynyddu ein gallu i dderbyn mwy o chwaraewyr - os oes gennych ddiddordeb dod yn hyfforddwr cysylltwch hefo ni.
“Gwnaed y cytundeb yn sgil llwyddiant y Tîm 1af sydd wedi ennill dyrchafiad i Haen 2 pyramid gêm y merched yng Nghymru - Cynghrair Genero Adran y Gogledd. Y nod yw adeiladu ar y llwyddiant hwn a datblygu’r clwb yn gynaliadwy."

Dywedodd Nick Pritchard, Cyfarwyddwr Gweithrediadau City Energy “Rwyf wedi bod yn dilyn cynnydd y Clwb dros y misoedd diwethaf ac mae angerdd ac ymroddiad y gwirfoddolwyr tuag at ieuenctid Bangor wedi gwneud argraff arna i. A minnau’n fachgen lleol fy hun, mae hwn yn gyfle gwych i’r cwmni gefnogi un o’r mudiadau gwirfoddol mwyaf yn Ninas Bangor.
“Mae City Energy yn cefnogi nifer o elusennau cymunedol, a gan fy mod eisoes yn ymwneud â Nantporth CIC mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu’r berthynas hefo CPDM Bangor WFC ymhellach. Edrychwn ymlaen at weithio mewn partneriaeth i gefnogi’r tîm cyntaf ac i gyflawni prosiectau i gynyddu mynediad i bêl-droed a chyfranogiad merched i’r gêm yn lleol.”
Y
chwanegodd Daniel Puttick, Cyfarwyddwr y City Training Group “Rydym wrth eu bodd gyda’r barteriaeth hon gyda chlwb arbennig CPDM Bangor WFC, perthynas fydd yn sicr o ysbrydoli llwyddiant ar y cae ac oddi arno.”
Mae City Training Group yn gwmni hyfforddi blaenllaw sy'n angerddol am rymuso unigolion a sefydliadau i gyrraedd uchelfannau newydd o lwyddiant trwy brofiadau dysgu trawsnewidiol. Mae gennym ystod gynhwysfawr o raglenni hyfforddi, ac rydym yn ymdrechu i ryddhau potensial llawn unigolyn, gan roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r meddylfryd sy'n angenrheidiol iddynt ragori yn y byd deinamig sydd ohoni.
Wrth galon ein partneriaeth â CPDM Bangor WFC mae cyd-awydd i ragori. Rydym wedi ymrwymo i rymuso unigolion, meithrin twf personol, a datgloi potensial sydd heb ei wireddu. Credwn y gall unrhyw un, trwy ddatblygu gwybodaeth a sgiliau, gyflawni campau rhyfeddol, croesi ffiniau a chyflawni eu breuddwydion.
Mae gan bêl-droed, a elwir yn ‘gêm hardd’, bŵer anhygoel i uno pobl, tanio angerdd, a chodi cymunedau. Mae'n ymgorffori gwaith tîm, disgyblaeth, gwytnwch, a cheisio mawredd. Mae ganddi'r gallu unigryw i oresgyn iaith, diwylliant a ffiniau, gan ddal calonnau a meddyliau.
Mae ein gwerthoedd cyffredin o ymroddiad, penderfyniad a gwelliant parhaus yn gonglfeini'r bartneriaeth hon.

Further reading